Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
Lefel 2Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Trosolwg o’r cymhwyster
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd y dysgwyr yn ymarferol..Mae’n datblygu gallu’r dysgwyr i gynnal anghenion iechyd a gofal oedolion mewn ystod o leoliadau a bydd yn eu galluogi i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:
- Deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddoriion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
- Deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Gwneud cyfraniad positif i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy ei ymarfer ei hun
- Myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
- Deall rolau swyddi a’r ffyrdd o weithio o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn ei rôl
Mae’n addas ar gyfer:
- Dysgwyr o 16 oed sy’n gweithio mewn rôl gefnogol gydag oedolion yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Dysgwyr sy’n cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
- Dysgwyr sydd yn gyflogedig yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Dysgwyr sy’n mynd yn ol i’r gweithle ar ôl seibiant gyrfa ac yn edrych i adnewyddu eu gwybodaeth a sgiliau.
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau (Oedolion).
Mae’n argymelledig bod dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) gan y bydd hwn yn ofyniad am ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn nodwedd y Brentisiaeth Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol i’r themau allweddol sydd yn y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:
- Ymarfer broffesiynol
- Iechyd a diogelwch
- diogelu
- deddfwriaeth, polisi cenedlaethol a chodau ymarfer
- iechyd a lles (oedolion)
- amrywiaeth o feysydd ymarfer megis dementia neu anabledd dysgu
Mae’r cymhwyster yn cynnwys uned orfodol ac ystod o unedau opsiynol sydd wedi cysylltu â mathau penodol o gefnogaeth neu leoliadau iechyd a gofal.
I gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 35 credyd:
- 14 credyd i’w cwblhau o’r uned orfodol
- isafswm o 21 credyd i’w dewis o’r gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd
Mae’r dysgwr angen cwblhau:
- portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwad uniongyrchol o ymarfer
- tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol
Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol cymwysedig mewn rolau Lefel 2 ar draws Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd hwn hefyd yn galluogi dysgwyr i geisio am gofrestru fel gweithiwr gofal yn y cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://socialcare.wales/registration
Mae’r cymhwyster yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen at:
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
- Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Lefel 4 Ymarfer Broffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Rhwydwaith Gwanwyn 2022: Adnoddau Cynllunio, Arsylwi ac Adfyfyrio | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |