Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer
Lefel 2Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?
Yn addas ar gyfer:
- dysgwyr dros 16 oed sy’n gweithio mewn rôl gynorthwyol yn y sector gofal plant
- dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
- dysgwyr sydd wedi gweithio yn barod ac yn cwblhau rolau a chyfrifoldebau Lefel 2
- dysgwyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac yn edrych i adnewyddu eu gwybodaeth a sgiliau yn y sector gofal plant.
Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn gan y bydd yn ofyniad ar gyfer ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn rhan o Brentisiaeth Sylfaenol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru).
Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth y dysgwyr a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig ar gyfer teuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant oed 0-19.
Mae wedi ei greu ar gyfer dysgwyr sydd mewn dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr yn eu gwaith ac yn gallu dangos eu bod yn gallu:
- deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
- deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau plentyn canolog mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
- gwneud cyfraniad positif i’r sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant trwy ymarfer ei hun
- adlewyrchu ar ymarfer i wella trwy’r amser
- deall rolau swyddi a swyddogaethau o fewn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
- defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn y rôl
Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac yn canolbwyntio’n ymarferol ar blant sydd dan 8 oed ac sydd wedi ei gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant fyny at oedran 18 oed.
Mae’r testunau canlynol yn ymddangos fel rhai hanfodol:
- egwyddorion a gwerthoedd
- diogelu
- iechyd a diogelwch
- iechyd, lles, dysgu a datblygiad
- ymarfer broffesiynol
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau hanfodol ac opsiynol. Mae’r unedau hanfodol yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu ymateb i ofynion plant fyny at 8 oed.
Mae’r unedau opsiynol yn galluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar eu dysgu a’u sgiliau ddatblygu ar gyfer meysydd allweddol o ddiddordeb sy’n berthnasol i anghenion plant, gan gynnwys trochi ieithyddol a dulliau positif ar gyfer cymorth ymddygiad.
Mae amrywiaeth o unedau gofal iechyd wedi eu cynnwys i adlewyrchu anghenion cymhleth rhai o blant sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned.
I gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 35 credyd:
- 25 credyd angen eu cwblhau o’r grwp hanfodol
- Isafswm o 10 credyd angen eu dewis o’r gyfres o unedau opsiynol
Mae dysgwyr angen cwblhau:
- Tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u marcio’n fewnol
- portffolio o dystiolaeth
- trafodaeth gyda’i aseswr
Wrth gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr Lefel 2 cymwysedig mewn modd dan oruchwyliaeth. Mae’r cymhwyster hefyd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen at:
- addysg bellach
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
- Lefel 4 Ymarfer Broffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae dysgwyr angen cyflawni unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad cyn gallu symud ymlaen at rai rolau arweinyddiaeth yn y sector.
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 GChDDP Ymarfer (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - o Gyfarfod Rhwydwaith GChDDPlant: Ymarfer (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer Rhwydwaith Hydref (2020) | Cliciwch yma i weld |
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Mawrth 2021) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) | Cliciwch yma i weld |
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) | Cliciwch yma i weld |