Gofal Cymdeithasol Cymru - Canllaw lleoliad gwaith
Mae profiad o waith ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant yn hanfodol i bontio'r bwlch rhwng addysg neu hyfforddiant a byd gwaith. Ar ei orau, gall agor llygaid pobl i swyddi nad oeddent erioed wedi meddwl amdanynt, llywio penderfyniadau gyrfa a darparu profiad gwerthfawr ar gyfer ceisiadau am swydd a mynediad i addysg uwch. Dyma ganllaw i gyflogwyr, darparwyr dysgu a dysgwyr ar leoliadau gwaith. Dylai'r canllaw hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr ag unrhyw bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad ar gyfer lleoliad gwaith a ddarperir gan ddarparwyr dysgu unigol a/neu gyflogwyr.
Dogfennau
https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/canllaw-lleoliad-gwaith
HTML
Bwriad yr adnoddau hyn yw bod yn fan cychwyn ar gyfer eich addysgu a dysgu, nid ydynt yn arwyddol o'r hyn a gaiff ei gynnwys mewn arholiad. Dylid cyfuno'r rhain gyda chynnwys eraill i roi profiad dysgu cyflawn i'r myfyrwyr.