Diweddariad pwysig ynghylch newidiadau i Uned 350 – Camau ar gyfer canolfannau cymeradwy

Mae’n bleser gennym gadarnhau bod Uned 350, Cefnogi defnyddio meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, wedi cael ei diweddaru. Mae’r uned hon yn rhan o’r cymwysterau Lefel 2 a 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae nod yr uned wedi ei ddiwygio, a chadarnhawyd mai ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol y mae’r uned ar gael, ac nad yw’n briodol i’r rheini sy’n gweithio’n benodol mewn lleoliadau iechyd.

Yn adran Canllawiau’r Uned, cyfeiriwyd at ddogfennau canllawiau allweddol:

  • Canllawiau Cymru Gyfan i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd a Darparwyr Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Meddyginiaethau a Gweithwyr Cymorth Gofal
  • Egwyddorion Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Meddyginiaethau yn y Sector Gofal Cartref

Camau pwysig i ganolfannau cymeradwy: Dylai pob canolfan gymeradwy sicrhau bod ei thimau asesu yn gweithio o’r Llawlyfr Cymwysterau diweddaraf, a bod yr uned uchod, os caiff ei chynnig i ddysgwyr, yn cael ei safoni cyn gynted â phosibl.