Os yw canolfannau am gynnig y cymhwyster Diploma Estynedig i ddysgwyr sy’n cychwyn ar eu cwrs ym mis Medi 2022, efallai y byddai’r opsiynau sydd wedi’u hamlinellu yma yn addas ar gyfer cyflwyno 540 o oriau dysgu dan arweiniad ym mlwyddyn 1 (2022/23).
Tynnwyd cynnwys o Uned 2 yn rhan o ddatblygiad parhaus y Diploma Estynedig newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau. Mae mwy o wybodaeth i’w gweld yma.
Mae'n bleser gennym fod yn datblygu cymhwyster Lefel 3 newydd sef y Diploma Estynedig ewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau a fydd ar gael i ganolfannau a dysgwyr yng Nghymru o fis Medi 2023. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Dystysgrif neu’r Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau yn flaenorol neu sydd i fod i gwblhau yn haf 2023.
Cymhwyster wedi'i anelu at ddysgwyr ôl-16 mewn addysg llawn amser yw hwn. Bydd yn cael ei ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr addysg bellach ac yn: