Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant

Lefel 4

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Cymwysterau Cymru bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n ategu Ymarfer Proffesiynol yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Cafodd y cymhwyster hwn ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Cafodd ei lunio ar gyfer dysgwyr ym maes dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig y cam datblygu nesaf i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer).

Beth fydd y cymhwyster yn ei gynnwys?

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Strwythur y cymhwyster

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr ennill o leiaf 60 credyd i gyd.

Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr ddilyn un o'r tri llwybr canlynol:

  • Gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddatblygu sgiliau rhianta
  • Gweithio gyda Phlant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN)
  • Adnabod a chefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Asesu

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • project, sy'n cynnwys cyfres o dasgau ysgrifenedig, arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer a thrafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi cael eu llunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o ran y ddwy uned orfodol a chynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt. Mae'r asesiadau yn cynnwys nifer o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau o ymarfer sy'n cynnwys arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer dysgwyr er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt.

At beth y gallai'r cymhwyster hwn arwain?

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn eu gwaith neu i astudio ymhellach ar lefel uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, gan gynnwys rolau swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dewch o hyd i ganolfan

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol

Pecyn Asesu

Gweld y ddogfen

Manyleb

Gweld y ddogfen

Cyflwniad Paratoi Canolfannau (Chwefror 2020)

Gweld y ddogfen

Pecyn Adnoddau Asesu

Gweld y ddogfen

Deunyddiau Cwrs

Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant - Parodrwydd Canolfannau

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Recordiadau Gweminar

Event Link
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld


I wylio'r hyfforddiant bydd angen:

  • Porwr diweddar, fel Internet Explorer 8
  • Adobe Connect ynghyd ag ategyn Adobe wedi'i osod.
  • I lwytho'r feddalwedd cliciwch ar y ddolen yma. (Os nad oes hawl gennych lwytho'r feddalwedd, cysyllwch a'ch technegydd TGCH am gymorth.)

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio