Lefel 3
Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd i ymarfer y dysgwyr mewn cyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio, neu am weithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.
Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr. Mae wedi ei greu ar gyfer dysgwyr sydd mewn dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr trwy eu gwaith a gallu dangos eu bod yn gallu:
Mae’n addas ar gyfer:
Mae’n argymelledig bod dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn neu, ochr yn ochr Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer achos bydd hwn yn ofyniad i ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae hefyd yn rhan o Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru).
Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gyda chanolbwynt ymarfer penodol ar blant dan 8 oed sydd wedi ei gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant hyd at 18 oed. Mae’r testunau canlynol yn rhai hanfodol:
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau hanfodol ac unedau opsiynol. Mae’r unedau hanfodol yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol i allu ymateb i anghenion plant hyd at 8 oed.
Mae’r unedau opsiynol yn galluogi’r dysgwyr i ganolbwyntio eu dysgu a’u sgiliau sydd wedi eu datblygu ar feysydd allweddol o ddiddordeb sy’n berthnasol i anghenion plant, gan gynnwys trochi iaith, cynorthwyo teuluoedd I ddatblygu sgiliau rhiant a chynorthwyo plant sydd ag anghenion ychwanegol.
Mae amrywiaeth o unedau gofal iechyd wedi eu cynnwys i adlewyrchu anghenion cymhleth rhai plant sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned.
I gwblhau Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd
Mae dysgwyr angen cyflawni:
Wrth gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Gofal , Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer mae’n galluogi’r dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant Lefel 3 cymwysedig mewn modd heb oruchwyliaeth ac, mewn nifer o leoliadau gwaith, mewn rôl Arweinyddiaeth.
Mae’r cymhwyster yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen at:
Mae cyfleoedd am addysg bellach a hyfforddiant proffesiynol yn cael eu harchwilio gyda phrifysgolion ar draws Cymru, gan gynnwys Tystysgrifau mewn Addysg Uwch.
Efallai bydd diddordeb gan ddysgwyr, ac am symud ymlaen at:
Mae dysgwyr angen cyflawni unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad cyn gallu symud ymlaen at rai rolau arweinyddiaeth yn y sector.
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Event | Link |
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 GChDDP Ymarfer (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - o Gyfarfod Rhwydwaith GChDDPlant: Ymarfer (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant:Ymarfer Rhwydwaith Hydref (2020) | Cliciwch yma i weld |
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Mawrth 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) | Cliciwch yma i weld |
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) | Cliciwch yma i weld |
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: