Lefel 3
Mae'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol o'r maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant â'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y sector.
Lluniwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd:
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyser Lefel 2 gan gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Cynghorir dysgwyr nad ydynt eto wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn gryf i wneud hynny cyn y cymhwyster hwn neu ar yr un pryd.
Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith a/neu i symud ymlaen mewn gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.
Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle â gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol. Mae elfen ymarfer y cymhwyster hwn yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.
Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:
Mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau o leiaf 700 awr o leoliad gwaith er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn.
Cymhwyster seiliedig ar gredydau yw'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ac mae'n galluogi dysgwyr i gyfuno unedau gorfodol ag amrediad eang o unedau opsiynol yn dibynnu ar eu lleoliad gwaith neu ddyheadau gyrfa at y dyfodol. Rhaid i ddysgwyr gwblhau cyfanswm o 72 o gredydau i gyd. Yr unedau gorfodol yw:
Uned | Teitl yr Uned | Asesu | Credyd |
300 | Hybu ymarfer craidd ym maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant | Mewnol | 18 |
301 | Hybu chwarae, dysgu, twf a datblygiad | Mewnol | 5 |
302 | Hybu maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar | Mewnol | 4 |
303 | Ymateb i afiechyd, pla/haint, clefyd ac imiwneiddio mewn plentyndod | Mewnol | 3 |
Gydag o leiaf un o'r canlynol:
304 | Hybu gofal plant 0-2 oed | Mewnol | 4 |
305 | Hybu gofal plant 2-3 oed | Mewnol | 4 |
306 | Hybu gofal plant 3-7 oed | Mewnol | 6 |
Ynghyd â'r uned theori orfodol ganlynol:
330 | Egwyddorion a damcaniaethau sy'n dylanwadu ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn yr 21ain ganrif yng Nghymru | Allanol | 19 |
331 | Ymchwilio i faterion cyfredol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru | Allanol | 3 |
Caiff y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ei asesu drwy 70% o asesiad mewnol a 30% o asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Gellir llwytho pecyn asesu yn rhoi manylion y gofynion asesu mewnol o'r tab dogfennau allweddol a deunyddiau cefnogi ar dudalen y cymhwyster ar y wefan.
Mae cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy amrediad o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau.
Gradd | Pwyntiau |
Rhagoriaeth* | 112 |
Rhagoriaeth | 96 |
Teilyngdod | 64 |
Llwyddiant | 32 |
Swyddog Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Gweld y ddogfen
Digwyddiadau |
Dolen |
Lefel 3 GChDDP Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Rhagfyr 2019) |
Cliciwch yma i weld |
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Hydref 2019/20) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 3 GChDDP Ymarfer a Theori: gweithdy Unedau 330 a 331 (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Mai 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - Cyfarfod Rhwydwaith GChDDP (Mai 2020) |
Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith Hydref (2020) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Hydref 2020) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Hydref 2020) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Gwanwyn 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori – Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Lefel 2 a 3 GCDDP Ymarfer a Theori Deall y Daith Asesu Ymarfer – Deunydd (Tachwedd 2021) |
Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) | Cliciwch yma i weld |
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) | Cliciwch yma i weld |
Holi ac Ateb - Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) | Cliciwch yma i weld |
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith yr Hydref 2022 | Cliciwch yma i weld |
GChDDP Lefel 3: Uned 330 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) | Cliciwch yma i weld |
GChDDP Lefel 3: Uned 331 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) | Cliciwch yma i weld |
I wylio'r hyfforddiant bydd angen: