Lefel 2
Lluniwyd y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau yn bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy'n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n addas i ddysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Argymhellir yn gryf bod dysgwr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster hwn wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau ar hyn o bryd y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cymhwyster yn cynnwys y materion cyfredol canlynol yn ymwneud â'r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:
Mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 60 awr o ymgysylltu â'r sector, y mae'n rhaid treulio o leiaf 30 awr o hynny yn ymgymryd â lleoliad gwaith. Gallai mathau eraill o ymgysylltu â'r sector gynnwys ymweliadau â'r gweithle, darlithwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol.
Cymhwyster unedol yw'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau sy'n caniatáu am elfen o asesu mewn camau. Mae'n cynnwys dwy uned orfodol:
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Hybu iechyd a llesiant drwy gydol camau bywyd | Allanol |
2 | Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog |
Asesir y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau drwy 60% asesiad mewnol a 40% asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach, gan gynnwys:
Swyddog Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4282
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4282
Gweld y ddogfen