TGAU
I wylio'r hyfforddiant bydd angen:
Mae'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr 14-16 oed sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.
Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae'n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygu plant.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Mae'r materion canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:
Mae'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant ar gael fel gradd unigol a dwyradd. Mae unedau 1 a 2 yn diffinio'r cynnwys pwnc ar gyfer y cymhwyster gradd unigol. Mae unedau 1, 2, 3 a 4 yn diffinio'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster dwyradd.
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Twf, datblygiad a llesiant dynol | Allanol |
2 | Hybu a chynnal iechyd a llesiant | Mewnol |
3 | Iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn yr 21ain ganrif | Allanol |
4 | Hybu a chynnal iechyd a llesiant er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol | Mewnol |
Mae 40% o'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 60% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach, gan gynnwys:
Swyddog Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2026 5147
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2026 5333
Teitl |
Cyswllt |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 1 a 2 Llyfr Athrawon |
https://www.amazon.co.uk/dp/B07Y4HSTS6?ref=myi_title_dp |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 3 a 4 Llyfr Athrawon |
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857035?ref=myi_title_dp |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 1 a 2 Llyfr Disgybl |
https://www.amazon.co.uk/dp/B07Y4MRQHQ?ref=myi_title_dp |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Unedau 3 a 4 Llyfr Disgybl |
https://www.amazon.co.uk/dp/1860857027?ref=myi_title_dp |
Bu’n rhaid i ni ohurio’r digwyddiad hwn ohewydd y creisis firws.
Yn y cyfamser, rydym wedi cynhyrchu gweminar, wedi ei recordio, a fydd yn rhoi trosolwg o’r prif negeseuon o’r digwyddiad hwn ac sy’n cynnwys adnoddau a manylion cyswllt defnyddiol am ragor o gyngor. Cliciwch ar y ddolen i gael mynediad at y weminar:
I wylio'r hyfforddiant bydd angen:
(Os nad oes hawl gennych lwytho'r feddalwedd, cysyllwch a'ch technegydd TGCH am gymorth).