Mae diogelu data yn rhywbeth y mae City & Guilds a CBAC yn ei gymryd o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiffuant a gonest yn ein hagwedd at breifatrwydd. Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn nodir sut byddwn yn ymdrin â'r data personol y byddwch chi'n eu rhoi i ni i gydymffurfio â chyfraith diogelu data perthnasol, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UE) 2016/679 (“GDPR”) yn benodol.
City and Guilds of London Institute ("City & Guilds") a WJEC CBAC Limited ("CBAC"), y naill a'r llall yw 'rheolydd data' annibynnol y data personol yr ydych yn eu rhoi i ni mewn perthynas â darpariaeth cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru drwy Ganolfannau Cymeradwyedig City & Guilds.
Elusen a ymgorfforwyd drwy Siarter Brenhinol yw City & Guilds, a gofrestrwyd fel elusen rhif 312832 (Cymru a Lloegr) a SC039576 (Yr Alban). Cyfeiriad cofrestredig City & Guilds yw Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, London, EC1A 9DE. I wneud unrhyw ymholiadau am y Polisi hwn, y ffordd y mae City & Guilds yn prosesu data personol, neu am arfer unrhyw hawliau sydd gennych, anfonwch neges e-bost at gdpr@cityandguilds.com neu ysgrifennwch at Data Protection, City & Guilds, Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, London, EC1A 9DE.
Cwmni a ymgorfforwyd yng Nghymru a Lloegr yw CBAC dan y rhif cwmni cofrestredig 3150875. Mae swyddfa gofrestredig CBAC yn 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. Swyddog Diogelu Data CBAC yw Ian Morgan, Cyfarwyddwr TG. Gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at gdpr@wjec.co.uk.
Os byddwch yn gwneud ymholiad am, neu'n tanysgrifio i dderbyn, ein cynhyrchion a gwasanaethau, yna byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rôl swydd. Efallai y dewiswch hefyd ddarparu eich rhif ffôn. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol sensitif amdanoch.
Os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cynhyrchion a gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:
Gallwn brosesu eich data personol at ddibenion sy'n rhan o'n buddiannau dilys, gan gynnwys:
Efallai y bydd gennych yr hawl i wrthwynebu'r prosesu hwn os dymunwch, mae manylion pellach i'w gweld dan y pennawd Eich Hawliau.
Os ydych wedi rhoi eich cydsyniad penodol i dderbyn cyfathrebiadau marchnata, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:
Efallai y byddwn hefyd yn prosesu eich data personol yn ôl gofynion y gyfraith, gan gynnwys ymateb i geisiadau gan lywodraeth neu awdurdodau gorfodi'r gyfraith, neu i atal trosedd neu dwyll.
Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod y contract ac am gyfnod o chwe blynedd ar ôl ei derfynu neu ar ôl iddo ddod i ben er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol, gofynion archwilio, gofynion rheoleiddiol neu orchmynion llysoedd ag awdurdod digonol.
Gallwch dynnu'n ôl o dderbyn cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg drwy glicio ar y cyswllt yn yr e-bost perthnasol.
Efallai y byddwn yn rhannu eich data â thrydydd partïon dibynadwy, yn eu plith:
Byddwn yn sicrhau bod contract yn ei le gyda phob un o'r derbynwyr data hyn sy'n sicrhau cyfrinachedd, diogelwch a phrosesu cyfreithlon yr holl ddata personol a rennir â nhw.
Os byddwn yn rhannu data personol ag is-gwmnïau / cwmnïau cysylltiedig a leolir y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, byddwn yn sicrhau y defnyddir dulliau diogelu priodol i warchod trosglwyddiad data personol. I wneud hyn defnyddir cymalau diogelu data safonol a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae gennych amrywiol hawliau mewn perthynas â'r defnydd o'ch data personol:
Sylwer os gwelwch yn dda bod eithriadau i'r hawliau hyn, er enghraifft, rydym yn rhwym yn gyfreithiol i barhau i brosesu eich data personol.
Os gwneir unrhyw newidiadau yn y dyfodol i'n Polisi, bydd y newidiadau hynny i'w gweld ar y dudalen hon a lle y bo'n briodol gwneud hynny, anfonir neges e-bost atoch. Cofiwch edrych ar y dudalen hon yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n Polisi.