Uned 4 - 2.4.3. Cefnogi hunaniaeth, hunan-werth, ymdeimlad o ddiogelwch a gwydnwch ar draws y cylch bywyd
Mae’r gyfres yma o adnoddau digidol yn cynnig sylfaen bwysig i ddysgwyr er mwyn iddynt ganfod gwybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â sut mae unigolion yn tyfu a datblygu ar hyd y gylchred bywyd, ac yn rhoi iddynt y gallu i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hynny. Mae’r adnoddau yma ar gael ar ffurf cyfres o lyfrau dysgu. I archebu’r llyfr(au), cwblhewch y ffurflen archebu isod a'r ddanfon at adnoddau@cbac.co.uk.