Neidio i'r prif gynnwy

Arweiniad i’r Arholiad: Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

Tachwedd 13

Wedi'i anelu at ddysgwyr, mae'r adnodd Arweiniad i’r Arholiad hwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i fynd i'r afael â chwestiynau yn y papur arholiad yn effeithiol. Gan ddefnyddio cwestiynau o chyn bapurau arholiad, bydd y PPT, gyda chymorth sain a sgript sain yn y nodiadau, yn eich tywys trwy ffug bapur arholiad, gan eich helpu i adolygu ac ymarfer technegau arholiad defnyddiol. Gallwch gwblhau'r “ffug arholiad” i gyd ar unwaith, mynd i’r afael ag un neu ddau o gwestiynau ar y tro neu ailedrych ar rai rhannau o'r cyflwyniad i atgyfnerthu'ch dysgu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llwytho’r PPT i lawr i sicrhau bod y sain yn gweithio'n effeithiol, gwnewch yn siŵr bod eich seinyddion / clustffonau ymlaen a pheidiwch ag anghofio gofyn i'ch athro os byddwch chi'n ansicr o unrhyw beth.

Dogfennau

Arweiniad i’r Arholiad: Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

PPTX

Gweld

Bwriad yr adnoddau hyn yw bod yn fan cychwyn ar gyfer eich addysgu a dysgu, nid ydynt yn arwyddol o'r hyn a gaiff ei gynnwys mewn arholiad. Dylid cyfuno'r rhain gyda chynnwys eraill i roi profiad dysgu cyflawn i'r myfyrwyr.

Ddim yn gweld beth ydych eisiau? A oes yna broblem gyda'r ffeiliau? A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau? Rydym yn croesawu pob adborth!